A Busy Week / Wythnos Brysur
Ar ddechrau’r wythnos roedd Josh, Jonny a Gwenno allan yn ffilmio ar gyfer hysbyseb Cymwysterau Cymru unwaith eto. Mewn 6 lleoliad gwahanol y tro yma! Roedd hi’n ddiwrnod prysur iawn i’r criw, gyda Gwenno ein cynorthwyydd cynhyrchu a Matthew Lofthouse, y ffotograffydd ar y diwrnod yn camu mewn i actio yn yr hysbyseb! Roeddem ni’n ffilmio gydag amryw o gwmnïau a busnesau megis VisibleArt, cwmni print, a Rachel Burgess Bridal Boutique. Roedd hin bleser cael cyfarfod a gweithio gyda busnesau lleol!
Os rydych chi’n cadw llygaid ar ein Instagram fe fyddwch chi’n gwybod bod Jonny wedi bod ar gwrs sain dydd Iau! Fe drafaeliodd Jonny i Fanceinion i’r ‘Guild of Television Camera Professionals’ er mwyn dysgu mwy am yr heriau a thechnegau o recordio sain fel dyn camera hunanweithredol. Roedd yn ddifyr iawn!
Fe drafaeliodd Josh a Gwenno i Abertawe fore dydd Mercher ar gyfer mynychu Big ION Business Bash yn Stadiwm Liberty. Roedd yn gyfle gwych i gael rhwydweithio gyda busnesau eraill a chlywed busnesau megis wisgi Penderyn yn trafod eu hanes a beth sydd yn gwneud busnes yn un llwyddiannus. Roedd cyfle i ni siarad gydag arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant a chymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol. Roedd yn ddiwrnod hynod ddiddorol!
Mae pennod olaf o’r gyfres ddiweddaraf o CIC allan heno! Ond peidiwch â phoeni oherwydd mae’r gyfres newydd yn y flwyddyn newydd yn mynd i fod yn anhygoel. Roedd Dave yn gweithio arno’r wythnos hon gan ffilmio Tîm Pêl-droed Merched Cymru yn ymarfer, ac mewn ysgolion yn ochrau Llanelli ac Aberystwyth. Cadwch lygaid allan am y gyfres newydd flwyddyn nesaf!
//
At the beginning of the week Josh, Jonny and Gwenno were out filming for the Qualifications Wales advert once again. They were filming in 6 different locations this time! A busy day for the crew, with Gwenno, our production assistant, and Matthew Lofthouse stepping in to act in the advert! We were filming with various companies and businesses, for example, VisibleArt, a printing company, and Rachel Burgess Bridal Boutique. It was a pleasure to meet and work with local businesses!
If you’re familiar with our Instagram you’ll already know that Jonny attended an audio course on Thursday! Jonny travelled to the Guild of Television Camera Professionals in Manchester to learn more about the challenges and techniques of recording sound as a self-operating cameraman.
Josh and Gwenno Travelled to Swansea Wednesday morning to attend the Big ION Business Bash at Liberty Stadium. It was a great opportunity to network with other businesses and listen to talks by companies such as Penderyn whiskey talking about what makes a successful business. There were opportunities to hear from leading industry experts and take part in interactive workshops. It was a thoroughly fascinating day.
The last episode of the latest series of CIC is out tonight! Don’t worry though, because the new series in the new year is going to be amazing. Dave was working on it this week, filming with the Welsh Ladies football team, and in schools in near Llanelli and Aberystwyth. Keep an eye out for it in the next year!